Cymraeg
Children from Ysgol Llanegryn and Ysgol Llwyngwril have been busy planting trees in Woodland Trust woodlands at Coed Ysgubor Wen, near Tywyn.
The schools were invited to plant the trees as part of the Assembly’s Plant! initiative and were supported by staff from Forestry Commission Wales’s Woodlands for Learning Team.
Plant! provides support for indigenous woodlands by creating a Welsh National Forest of native trees to act as a carbon sink. A tree has been planted to mark the birth or adoption of every child in Wales from 1 January 2008 onwards.
Plant! Project Officer, Lajla Cash, said, "The ongoing programme of events at all the Plant! sites is important to ensure the local schools and community feel a sense of ownership. It was lovely to welcome the schools to the site, particularly Ysgol Llanegryn who had helped plant another area earlier in the year."
The children also took part in activities run by the Woodlands for Learning Team which highlighted the many benefits of creating a new woodland. They learnt how woodland provides habitats for native wildlife and how it has global environmental impacts, such as the mitigation of climate change.
Children from Ysgol Abergynolwyn also took part in the week’s events at Coed Ysgubor Wen, which is the North Wales Plant! site.
Notes for editors
Plant! has been developed as part of the Welsh Assembly Government's One Wales agenda and it is an innovative scheme to provide support for indigenous woodlands by creating a Welsh National Forest of native trees to act as a carbon sink. The Welsh Assembly Government will arrange for a tree to be planted to mark the birth or adoption of every child in Wales from 1 January 2008. For more information see here.
The Plant! scheme is being delivered by Forestry Commission Wales in partnership with Coed Cadw (the Woodland Trust) on behalf of the Welsh Assembly Government.
Forestry Commission Wales is the government department responsible for forestry policy and looks after the 126,000 hectares (309,000 acres) of public forests owned by the Welsh Assembly Government.
Coed Cadw (The Woodland Trust)
The Woodland Trust is the UK’s leading woodland conservation charity. It has 300,000 members and supporters. The Trust has four key aims: i) No further loss of ancient woodland; ii) Restoring and improving the biodiversity of woods; iii) Increasing new native woodland; iv) Increasing people’s awareness and enjoyment of woodland.
Established in 1972, the Woodland Trust now has over 1,000 sites in its care covering approximately 20,000 hectares (50,000 acres). These include over 100 sites in Wales, with a total area of 1,580 hectares (3,900 acres). It offers free public access to nearly all of its sites. Further news can be accessed via www.coed-cadw.org.uk The Trust adopted its Welsh language name in 2000: “Coed Cadw”. This is an old Welsh term, used in medieval laws to describe protected or preserved woodland.
English
Plannu coeden dros Gymru
Mae plant Ysgol Llanegryn ac Ysgol Llwyngwril wedi bod yn brysur yn plannu coed yng nghoetiroedd Coed Cadw (the Woodland Trust), sef Coed Ysgubor Wen, ger Tywyn.
Gwahoddwyd yr ysgolion i blannu’r coed fel rhan o fenter Plant! Llywodraeth Cynulliad Cymru ac roedd staff Tîm Coetiroedd ar gyfer Dysgu Comisiwn Coedwigaeth Cymru gerllaw i roi cefnogaeth.
Mae Plant! yn cynnig cefnogaeth i’r coetiroedd brodorol drwy sefydlu Coedwig Genedlaethol Cymru o goed brodorol i weithredu fel sinc carbon. Plannwyd coeden i nodi geni neu fabwysiadu pob plentyn yng Nghymru 1 Ionawr 2008 ymlaen.
Dywedodd Lajla Cash, Swyddog Prosiect Plant!,"Mae’r rhaglen gyfredol o ddigwyddiadau ar holl safleoedd Plant! yn bwysig i sicrhau bod yr holl ysgolion lleol a’r gymuned yn teimlo elfen o berchenogaeth.
"Roedd yn fendigedig croesawu’r ysgolion i’r safle, yn enwedig Ysgol Llanegryn a fu’n cynorthwyo i blannu ardal arall yn gynharach yn y flwyddyn."
Yn ogystal, bu’r plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a gynhaliwyd gan Dîm Dysgu’r Coetiroedd a amlygodd y manteision di-ri o sefydlu coetir newydd. Dysgodd y plant am y modd mae’r coetir yn cynnig cynefinoedd ar gyfer y bywyd gwyllt brodorol a’r modd mae’n effeithio ar yr amgylchedd byd-eang, fel lliniaru’r newid yn yr hinsawdd.
Yn ogystal, cymerodd plant o Ysgol Abergynolwyn ran yn nigwyddiadau’r wythnos yng Nghoed Ysgubor Wen, sef safle Plant! yng ngogledd Cymru.
Nodiadau i olygyddion
Datblygwyd Plant! fel rhan o agenda Cymru’n Un Llywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’n gynllun arloesol i ddarparu cefnogaeth ar gyfer coetiroedd brodorol drwy sefydlu Coedwig Genedlaethol Cymru o goed naturiol i weithredu fel sinc carbon. Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru’n trefnu plannu coeden i nodi geni neu fabwysiadu pob plentyn yng Nghymru o 1 Ionawr 2008. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.
Mae cynllun Plant! yn cael ei gyflawni gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru mewn partneriaeth â Choed Cadw (the Woodland Trust) ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Comisiwn Coedwigaeth Cymru yw adran y llywodraeth sy’n gyfrifol am bolisi llywodraeth ac sy’n edrych ar ôl y 126,000 hectar (309,000 erw) o goedwigoedd cyhoeddus sy’n eiddo i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 300,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coedcadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.