Dolenni defnyddiol ar gyfer plannu coed yng Nghymru

English

Ers canrifoedd mae coed a choedlannau brodorol wedi cyflenwi gwasanaethau a manteision i ffermwyr ac i’r gymdeithas; lloches a chysgod, tanwydd coed a phren, rheoli a chynnal cyf lenwadau dwr o ansawdd uchel, rheoli llif y dwr yn ystod cyfnodau gwlyb iawn a darparu cynefin i fywyd gwyllt ac i anifeiliaid hela.

Mae creu a chynnal tirwedd sy’n doreithiog o goed a choedlannau brodorol yn anhepgor i helpu amaethyddiaeth yng Nghymru i ateb yr heriau diweddaraf; yn arbennig ymaddasu i effeithiau hinsawdd sy’n newid wrth gynnal defnydd cynhyrchiol o’r tir.

Mae Coed Cadw’n credu fod y manteision hyn yn bwysicach heddiw nag erioed o’r blaen, ac mae’n cefnogi targed Llywodraeth y Cynulliad i greu 100,000 o hectarau o goetir newydd dros yr ugain mlynedd nesaf.

Dyma pam ein bod ni wedi cyhoeddi’r llyfryn ‘Coed i ffermydd yng Nghymru’, a’i ddosbarthu at bron o bob un ffermwr yng Nghymru.

Mae’r dudalen hon yn cynnwys pdf o’r llyfryn yn y golofn ar y dde, fel bod modd i chi islwytho copi arall os dymunwch, ynghyd â nifer o ddolenni sy’n rhoi rhagor o wybodaeth a chyngor am gynefinoedd sy ddim yn addas ar gyfer plannu coed: