Y Don
Ymunwch a ni ar y gwrthdystiad heddychol hwn sy’n gyfeillgar i deuluoedd i anfon neges i lywodraeth y DU ein bod yn disgwyl bargen gref yn y trafodau newid hinsawdd yn Copenhagen.
Ar Ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr 2009, o flaen cyfarfod terfynol newid hinsawdd y UN yn Copenhagen, bydd miloedd o bobl o dros y DU ac o bob cymdeithas, yn llifo trwy strydoedd Llundain a Glasgow i dangos eu cefnogaeth am ddyfodol hinsawdd ddiogel i bawb.
Mae yna lawer o broblemau yn cael eu hachosi gan newid hinsawdd ond disgrifiwn y materion allweddol i Goed Cadw yn ein dogfen polisi Copenhagen. Yn bendant hoffwn weld: coetiroedd sydd yn ecolegol gynaliadwy ac wedi ardystio yn gywir; amddiffyniad hollol ar gyfer pob coetir tyfiant hen; a chadwraeth ein coed a choetiroedd ar gyfer y dyfodol. Mae angen cynnwys pob un o’r ceisiadau yma o fewn y cytundeb hanfodol fydd yn cymryd lle'r Kyoto Protocol.
Trefnir Y Don gan y Glymblaid Atal Anrhefn Hinsawdd, mae Coed Cadw yn aelod bywiog yn Lloegr, yr Alban ac yng Nghymru. Rydym yn cymryd rhan yn y gwrthdystiadau ar 5 Rhagfyr yn Llundain a Glasgow. Fedrwch ddarganfod mwy o wybodaeth am y dau gwrthdystiad, yn cynnwys gwybodaeth am drefniadau teithio ac am be mae’r Glymblaid yn gofyn gan lywodraeth y DU gan ddilyn y linciau isod.
Fedrwch gadw golwg ar ein trefniadau am gyfarfod ar y diwrnod gan danysgrifio i ein e -cylchlythyr ymgyrchoedd.
Ymunwch a’r Don a darganfyddwch mwy
neu 
Helpwch Y Don i rolio
Mae angen ar y trefnwyr eich cymorth i wahodd pobl ar 5 Rhagfyr a fedrwch helpu trwy ddod i’r gwrthdystiad a chynnig gwahoddiad i’ch teulu a ffrindiau. Lawr lwythwch arweiniad llawn i helpu’r Don i rolio.
Gallwch helpu wrth wirfoddoli fel stiward ar un o’r gwrthdystiadau. Os oes gennych chi ddiddordeb, fysa’r Glymblaid yn falch o glywed gennych. I ddarganfod mwy, cysylltwch â’r trefnwyr gan glicio ar y linciau:
Llundain lawr lwythwch a dychwelwch y ffurflen cofrestri
Glasgow anfonwch e-bost i’r trefnwyr (yn Saesneg os gwelwch yn dda)