Skip Navigation

Cynhaeaf Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae natur Cymru yn dirywio. Fe fydd rhai ohonom yn sylweddoli hyn. Fydd rhai eraill ddim. Fe allwn ni edrych ar ein tirwedd a gweld tirwedd werdd a dymunol. Ond os edrychwch yn ddyfnach, fe welwch broblemau mawr y mae gwir angen mynd i’r afael â nhw.

Tyfu gyda natur

Wrth gael fy magu yng Nghanolbarth Cymru, roeddwn i'n ffodus i brofi digonedd o fywyd gwyllt a bioamrywiaeth. Roedd y profiadau hyn yn sail i fy ngwaith heddiw fel Swyddog Ymgyrchoedd Coed Cadw (Woodland Trust). Heb y profiad uniongyrchol hwn, hwyrach na fyddwn wedi gwerthfawrogi, neu wedi sylweddoli ei fod e wedi dirywio cymaint. Ar yr un pryd, rydym yn profi ansefydlogrwydd cynyddol o ran newid yr hinsawdd. Mae'n bryder cynyddol, pwy fydd yn ymladd dros fyd natur yn y dyfodol, os nad yw'n cael ei lywio ganddo?

Yng Nghymru, mae perchenogion daliad fferm, ar gyfartaledd, dros 60 mlwydd oed. Does dim ond 3% ohonynt o dan 35 oed. Ni fydd yr hyn a weithiodd i'r rhieni a'r teidiau yn gweithio i genedlaethau'r dyfodol.

‘Tirwedd oer’ – Dyffryn Gwy, Y Canolbarth (Llun: Nigel Pugh)
‘Tirwedd oer’ – Dyffryn Gwy, Y Canolbarth (Llun: Nigel Pugh)

Mae’r system wedi newid

Mewn gwirionedd, fe ddechreuodd amaethyddiaeth newid ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Trosglwyddwyd llawer mwy o dir i gynhyrchu bwyd. Fe fu mecaneiddio a dwysau. Yn ddiweddarach, cyflwynwyd y Polisi Amaethyddol Cyffredin, ac i raddau helaeth mae hwnnw wedi cael y bai am gyflwyno ffermio dwys, sy’n niweidiol i'r amgylchedd. Roedd yn annog ffermwyr i dynnu coed a llwyni o dir amaethyddol i wneud y mwyaf o’r tir, wrth danseilio’r bywyd gwyllt oedd mor annwyl inni fel cenedl.

Er, cofiwch, nid oes unrhyw unigolyn yn cael y bai am hyn, rydym i gyd wedi bod yn rhan o system sydd wedi cyfrannu at danseilio byd natur, ond mae’r amser wedi dod i newid y system honno.

Cyflawni amaethgoedwigaeth

Mae’r gair amaethgoedwigaeth yn disgrifio systemau ffermio sy'n cyfuno coed a llwyni gyda chnydau amaethyddol a da byw. Drwy gynyddu nifer y coed ar dir amaethyddol, fe allwn wella'n sylweddol sut mae'r tir hwnnw'n gweithio i bobl ac i fyd natur, wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Yng Nghymru, defnyddir oddeutu 84% o arwynebedd y tir ar gyfer amaethyddiaeth!

Fe fydd mwy o goed ar dir amaethyddol yn:

  • cynyddu bywyd gwyllt a bioamrywiaeth
  • atal erydu’r pridd a chynyddu ffrwythlondeb y tir
  • gwella cynnyrch ffermydd a chyfrannu at gyflogaeth leol
  • gwella lles anifeiliaid
  • cadw dŵr ar y tir ar gyfer cnydau, da byw a phobl
  • lleihau llifogydd, llygredd dŵr ac aer
  • storio carbon, gan helpu tirweddau a phobl i addasu i newid yr hinsawdd

Amaethyddiaeth Cymru

Un o'r rhwystrau mwyaf i ffermio gyda natur yw'r pryder o ran gwneud elw. Mae pawb wedi wynebu cyfnod o gyni economaidd yn ddiweddar, yn cael ein gwasgu gan farchnadoedd byd-eang, heb anghofio, wrth gwrs, yr ansicrwydd sy’n dod yn sgîl Brexit.

Fe all amaethgoedwigaeth gael effaith barhaol, gadarnhaol ar fyd natur, bioamrywiaeth, a'r economi lleol. Mae'n gallu cyfrannu'n helaeth at les a gwydnwch y gymuned wrth wynebu ansicrwydd newid yr hinsawdd. Fe all helpu'n sylweddol i gyflawni ymrwymiadau a chyfrifoldebau byd-eang Llywodraeth Cymru a amlinellwyd o dan Ddeddf 'Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol'.

Straeon i’w hadrodd

Nid oes llawer o bobl yn deall beth yw amaethgoedwigaeth, mewn giwrionedd. Os gellir cyfuno coed gyda chynhyrchu bwyd, beth sy’n digwydd a beth fydd yr eiffeithiau?

Yn ystod y rhaglen 'Cynhaeaf Cynhyrchiadau Dyfodol', nod Coed Cadw yw archwilio'r weledigaethau, y rhesymau, y dylanwadau a'r llwyddiannau. A allwn ni fagu balchder mewn math o amaethyddiaeth sydd â’i fryd ar storio carbon, lleihau perygl llifogydd, gan greu lle ar gyfer byd natur unwaith eto?

Gadewch i ni sicrhau nawr, y bydd y system cyllido amaethyddiaeth yn cefnogi ehangu coed ar dir amaethyddol, tra'n cynhyrchu bwyd yn y dyfodol, er lles pawb.

Gofynnwch i'ch Aelod Cynulliad sicrhau 'Cynhaeaf Cenedlaethau’r Dyfodol'

Gweithredwch yn awr