Rydyn ni'n mynd i adfer coetir Iwerydd ar safle newydd yng Nghwm Rheidol

Diolch i haelioni un o’n cefnogwyr mae cyfle gennym i adfer gogoniant darn o goetir hynafol yng Nghymru.

Allt Boeth (Llun: WTML/R Francis)

Am Allt Boeth

Mae’r safle, Allt Boeth, ger Pontarfynach, yn cynnig cyfle unigryw i arddangos a monitro’r broses o adfer planigfeydd a greuwyd ar goetir hynafol.

Mae Allt Boeth yn goetir hynafol. Rydym yn credu iddi fod yn goediog ers 1600 a mwy na thebyg cyn hynny. Fe sefydlodd y Comisiwn Coedwigaeth blanhigfa o goed conwydd yma yn 1955 ac fe’i gwerthwyd i berchnogaeth breifat yn 1991. Yn awr mae hi wedi cael ei rhoi inni, yn hael, gan ei pherchennog diweddaraf, Roger Gallienne.

Mae wedi cael ei reoli ers 2002 gan arbenigwr mewn coedwigaeth gyda gorchudd parhaol, Phil Morgan, sy'n ymwneud â rheoli’r goedlan ar hyn o bryd.

Mae'r safle 22.5 hectar wedi ei leoli ym mhen uchaf Cwm Rheidol, ychydig filltiroedd i'r dwyrain o Aberystwyth, yng nghefndir eiconig Y Gwyll ar S4C.

Yn sefyll yn ddramatig ar ochr dyffryn serth sy’n frith o goetir hynafol uwchben ceunant afon Rheidol, mae'n ardal o goetir pinwydd, llarwydd, sbriws a ffawydd, wedi ei blannu ar hen goetir derw a bedw.

European pine marten (Martes martes) emerging and looking from woodpecker's nest hole in tree in autumn forest.
Mae dimensiwn ychwanegol sylweddol i Allt Boeth, sef ei fod yn agos iawn i’r safle lle rhyddhawyd bele’r coed yn ddiweddar (Llun: Vincent Wildlife Trust)

Bele’r coed yn Allt Boeth

Mae dimensiwn ychwanegol sylweddol i'r safle hwn, sef ei fod yn agos iawn i’r safle lle rhyddhawyd bele’r coed yn ddiweddar, ac mae cofnodion hanesyddol o boblogaeth y bele yn ardal Rheidol.

Mae’r Vincent Wildlife Trust wedi defnyddio camerâu, tiwbiau a blychau ffau yn Allt Boeth i ymchwilio a monitro eu symudiadau. Yn 2015 fe gefnogom ni brosiect lle rhyddhawyd y bele yn yr ardal i roi hwb i’w niferoedd a’u hamrywiaeth genetig.

Mae'n debygol y bydd Allt Boeth yn rhan o diriogaeth poblogaeth bele'r coed yn y dyfodol yn y rhan hon o’r Canolbarth, ac mae’n bosibl y caiff y safle hwn ei ddefnyddio ar gyfer monitro poblogaethau bele'r coed a'r cysylltiad sy’n yna gyda phoblogaeth wiwerod llwyd ac effeithiau pwysau’r boblogaeth.

Rhoddir sylw arbennig i lystyfiant ar lawr y goedwig, ond fe fyddwn ni’n ystyried trigolion eraill y safle, megis adar, mamaliaid bach, infertebratau a micro-organebau.

Dyfodol Allt Boeth

Yn y pen draw, fe fydd adfer coetir brodorol yn darparu cyfleoedd gwell i rywogaethau o blanhigion a ffyngau sydd wedi cael eu colli o’r dirwedd ehangach.

Ac wrth i amrywiaeth strwythurol a biolegol y safle gynyddu, fe fydd e’n dod yn ddefnyddiol i amrywiaeth ehangach o anifeiliaid, gan gynnwys, gobeithio, poblogaeth sefydlog o fele'r coed.

Yn y tymor hir, fe fydd Allt Boeth yn cynrychioli enghraifft wych o safle coetir hynafol sydd wedi ei adfer. Cynhelir y coetir mewn cyflwr ecolegol da ac yn y dyfodol fe fydd ymwelwyr i'r rhan hon o Orllewin Cymru yn gallu gweld coetiroedd dramatig yr Iwerydd, lle cyfoethog lle mae planhigion yn tyfu’n doreithiog a bywyd gwyllt yn amrywiol.

Fe fydd y broses o adfer a thrawsnewid i goedwigaeth orchudd barhaus yn cael ei fonitro'n agos dros y degawdau nesaf, a bydd y safle yn cynhyrchu data craff ar y newidiadau biolegol sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd, fel canlyniad o reoli’r goedwig mewn dulliau gwahanol.

Beth am deithio yn ôl mewn amser i a darganfod coetir hynafol yn agos i chithau?