Skip Navigation

M4: Dinistrio Coetir ar Raddfa Lywodraethol?

Dywedir nad ydym yn ysgrifennu llythyrau at ei gilydd yn ddigon aml y dyddiau hyn, gan ddewis anfon e-bost cyflym, neges destun neu ryw ddull arall i gyfathrebu electronig. Roedd yn syndod pleserus, felly, pan gyrhaeddodd llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru yr wythnos hon, hyd yn oed os daeth hwnnw fel atodiad i e-bost. Ond fe ddaeth y pleser i ben pan ddarllenon ni gynnwys y llythyr.

Roedd llythyr y Llywodraeth yn ymwneud â’r cynlluniau ar gyfer ffordd lliniaru’r M4 o amgylch Casnewydd. Cynllun yw hwn fydd yn golygu gwario dros £1 biliwn o arian y trethdalwr ar adeiladu traffordd newydd trwy gynefinoedd gwerthfawr megis Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Gwastadeddau Gwent a pum ardal o goetir hynafol.

Yn y llythyr, fe ofynnodd y Llywodraeth a fydden ni’ n ystyried tynnu yn ôl ein gwrthwynebiad i'r cynllun, gan roi nifer o resymau pam y byddai’n berffaith iawn i ddinistrio coetir hynafol fel hyn.

Dadleuon brawychus

Gellid rhagweld rhai o’r rhesymau a gynigwyd - ni fyddai’r cynllun y dinistrio llawer o iawn o goetir hynafol, er enghraifft. Mae rhai o’r rhesymau eraill yn fwy brawychus. Yn wir pan ddarllenodd ein hecolegydd am eu cynllun i drawsleoli priddoedd o Berryhill Wood, sy’n cael ei ddisgrifio yn y llythyrau fel “un sy’n frith o blanhigyn ymledol Jac y Neidiwr", dyma hi’n cyfeirio at gopi o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. (Fe all Jac y Neidiwr oroesi yn y banc hadau am dua dwy flynedd, felly, petasech chi’n symud pridd o’r goedlan, fe allai hynny fod yn drosedd.)
Ond y peth gwaethaf am y llythyr oedd y ddadl fod rhaid cydbwyso’r "effeithiau lleol" hyn yn erbyn manteision economaidd ac amgylcheddol ehangach y cynllun. Duw a’n helpo!

Yn gyntaf fel prosiect seilwaith blaenllaw sy’n cael ei ariannu’n gyhoeddus, fe ddylai ‘r cynllun gael ei weld fel un teilwng ar lefel byd-eang o ran lleihau sgîl effeithiau amgylcheddol niweidiol. Y dyddiau hyn, ni ddylen ni weld cynlluniau sy'n dinistrio Safleoedd i Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig neu gynefinnoedd unigryw megis coetir hynafol.

Ni ddylid cwestiynu gwerth y cynefin neu roi esgusodion yn awgrymu ei bod hi’n dderbyniol i ddinistrio darnau bach o goetir hynafol. Dylid canolbwyntio ar 'sut y gallwn gwrdd ag anghenion trafnidiaeth pobl Cymru yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl?'

Yn amlwg mae llawer o waith inni wneud eto ac os ydych yn un o'r miloedd o bobl sydd wedi gwrthwynebu'r llwybr presennol, mae'r neges yn glir... Plîs peidiwch ag ildio - daliwch ati.

Nid yw’r newyddion i gyd yn ddrwg

Ond nid yw’r newyddion i gyd yn ddrwg. Mae’r Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, Ken Skates, wedi penderfynu galw Ymchwiliad Cyhoeddus ac fe ddylai hwn ddechrau ryw dro yn ystod yr hydref (2016). Mae e hefyd wedi’n gwahodd ni, yn garedig, i gwrdd ag e ym mis Awst i drafod y pryderon mae cannoedd o gefnogwyr Coed Cadw wedi eu codi.

Mae’r ddau ddatblygiad yma i’w croesawu. Bydd ymchwiliad cyhoeddus yn rhoi cyfle i Coed Cadw ac eraill sy’n pryderu am y cynllun ddweud eu dweud gerbron arolygydd annibynnol. Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys Associated British Ports, oherwydd y bydd y cynllun yn rhwystro mynediad i’w harbwr, a grwpiau cadwraeth a bywyd gwyllt megis yr RSPB.

Mae cyfarfod gydag ysgrifennydd newydd y cabinet newydd yn dangos hefyd lefel da o ymrwymiad i ddeall y bygythiad i goetir hynafol a diddordeb ym mhryderon ein cefnogwyr. Dyma gam addawol ymlaen, felly.
Fe fyddwn yn diweddaru pawb wrth i bethau symud ymlaen.